Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Eisteddfod Eryri a'r Cyffuniau 2005

Gyda'r Sesiwn Fawr 'di hen fynd a mis Gorffennaf yn prysur dirwyn i ben, dyma'r 'Steddfod ar ein pennau cyn inni droi! Efallai mai 'fory mae'r brifwyl yn cychwyn yn swyddogol, ond 'rydw i eisioes wedi bod yn treulio darn go helaeth o'r wythnos hon yn gwneud gwaith paratoi ar ei chyfer. Ddechrau'r wythnos, bu angen dosbarthu posteri yn hysbysebu gigs Cymdeithas yr Iaith o amgylch yr ardal, yna'r deuddydd diwethaf bues i'n helpu gosod eu stondin. Er gwaetha'r glaw trwm a'r holl fwd heddiw, mae popeth ar faes y Faenol bellach yn ei le ar gyfer yfory.

Mi fydd y 'Steddfod hon, 'dwi'n credu, yn un dra gwahanol imi. Hon fydd yr un gynta' imi ei gweld yn dod i'r ardal 'dwi'n byw ynddi, sef Eryri (byddai "Arfon" wedi bod yn enw digon addas i'r un yma, serch hynny) . Yn fwy na hynny, mae'r maes bron ar stepan drws, gan fy mod yn byw yn Seion ym mhen ucha plwy' Llanddeiniolen, gwta bum munud o'r Faenol! Oherwydd bod hi mor lleol, mae hi hefyd am fod yn 'Steddfod reit brysur. Byddai'n gweithio (gwirfoddoli) ar stondin y Gymdeithas rhan fwya' o foreau, a byddaf yn gwneud peth stiwardio mewn gigs ar ddechrau'r wythnos. Ychwanegir at hynny yr oll gymdeithasu, ralis a chyfarfodydd sydd rhaid 'neud!

Dweud y gwir, 'dwi'n edrych ymlaen at Eryri 2005...


Sesiwn Fawr 2005

Es i i'r Sesiwn Fawr yn Nolgellau y penwythnos hwn. Mae'r Sesiwn yn wastad yn gyfle gwych i wrando ar gerddoriaeth fyw o safon yn ogystal â chwrdd â ffrindiau o'r coleg neu oddi cartref (neu o lefydd eraill), a 'doedd eleni ddim yn eithriad o gwbl. 'Dwi erioed wedi gweld gymaint o bobl dwi'n nabod trwy goleg yn Sesiwn â'r hyn welais i y flwyddyn yma. Yn fwy 'na hynny, dydw i erioed wedi gweld gystal tywydd yn Nolgellau!

Fel y gellid disgwyl bellach, roedd y gig nos Wener dan ei sang gyda'r Super Furry Animals (ymysg eraill) yn chwarae. Un o uchafbwyntiau'r noson i mi oedd gwrando ar Sleifar a'r Teulu, prosiect hip hop diweddaraf MC Sleifar (Steffan Cravos). Gyda rhai fel Aron a Dyl Mei o Pep Le Pew yn cymryd rhan yn ogystal â Cynan Llwyd o Kenavo, cafwyd perfformiad llawn arddeliad o'r brif lwyfan gan y criw talentog yma. Dydw i dim yn cofio gymaint o'r Super Furries, ond roeddan nhw hefyd wedi gwneud set penigamp, er mae rhaid imi gyfaddef 'mod i'n anghyfarwydd â lot o'r caneuon newydd sydd ganddyn nhw. Hen bryd imi brynu rhai o'r albymau maen nhw wedi rhyddhau ers Mwng, dwi'n meddwl!

Roedd yna hefyd dipyn go lew o fandiau gwerth chweil yn chwarae ddydd Sadwrn. Yn y p'nawn, es i weld y grwp cajun Cymraeg o ardal Bangor, Cajuns Denbo, yn perfformio amrywiaeth o ganeuon oddi ar eu halbwm newydd, "Dwy Daith", yn y Theatr Fach yng nghanol y dref. Hwyrach ymlaen, welais i Frizbee a Huw Chiswell lawr yn y Marian. Rwan, dwi yn reit hoff o ganeuon Frizbee, a mae gena'i'r albwm "Hirnos", ond oes rhaid iddyn nhw swnio gymaint fel Big Leaves? Mae un o'u caneuon yn swnio yn union fel Seithenyn! O ran Chiz, mi wnaeth set ddigon snazzy gyda'i biano gwyn a "cherddorfa" o sacsoffons a offerynnau pres eraill, gan gloi ei berfformiad efo'i ddwy gan mwyaf adnabyddus, "Y Cwm" a "Rhywbeth o'i Le". Yna, i gloi'r noson, cafwyd supergroup o fandiau Blaenau Ffestiniog o'r enw Estynedig Vat, sef cyfuniad o Estella, Anweledig a Vates. Yn anffodus, 'roeddwn i yn sefyll reit yng nghefn y dyrfa ac methu'n lan a chlywed y gitar fas. Ta waeth, 'roedd yr awyrgylch yn un ddigon hwyliog a'r artistiaid i weld wrth eu boddau; dwi jyst yn gobeithio wnawn nhw ailddarlledu'r gig ar S4C yn fuan...

Diwrnod graddio

Bues i lawr yng Nghaerdydd echdoe ar gyfer fy seremoni graddio, ac am ddiwrnod poeth oedd o - dros 30 gradd celsius ganol dydd yn ôl pob son. O na bai'r tywydd fel hyn tra'r oeddwn yn astudio at fy ngradd! Ac efallai nad diwrnod chwilboeth fel ddoe oedd y diwrnod delfrydol i wisgo clogyn a chap du (a rhostio/chwysu chwartiau o ganlyniad), ond o leiaf mae'n well na'r gwynt a glaw arferol sydd yn yn fynych yn y rhan yna o'r byd.

Yn Neuadd Dewi Sant y cynhaliwyd y seremoni, ac roeddan ni (h.y. myfywyr yr ysgol gyfraith) yn derbyn ein graddau yn ystod cynulliad cyntaf y dydd am 10.30yb, sef yr un pryd â myfyrwyr o'r adrannau Cerddoriaeth ac Addysg Grefyddol. Cyfuniad diddorol o adrannau, mae'n siwr! Yn ogystal, derbynodd y cyfansoddwr Cymreig, Karl Jenkins, gymrodaeth er anrhydedd oddi wrth y Brifysgol. Serch hynny, ni fyfyrwyr y gyfraith gyda'n sashes piws oedd y mwyafrif llethol o'r ddarpar-raddedigion. Mi aeth y seremoni i gyd yn iawn, a'r unig (fan-)gamgymeriad a wnaed oedd y ffaith bod yr argraffwyr wedi cam-rwymo'r rhaglen swyddogol ryw fymryn.

Yn dilyn cloi'r seremoni am hanner dydd, ddaru ni adael y Neuadd er mwyn dal tacsi yn ôl i'r Brifysgol i gael tamaid i fwyta a llymaid i yfed. Mewn marquee bach tu allan i'r Brif Adeilad y cynhaliwyd y reception gan yr ysgol gyfraith, ac er bod y bwffe yn ddigon i lenwi rhywun, braidd yn undonog ydoedd - gystal a dweud fy mod i wedi gweld dewis gwell mewn bwffe gan y coleg cyn echdoe! Ta waeth, cefais gyfle gwych yn y marquee i roi'r byd yn ei le efo myfyrwyr eraill fu'n dilyn yr un cwrs a fi, sef LL.B. cydanrhydedd yn y Gyfraith a Ffrangeg. Neis hefyd oedd gweld bod y mwyafrif llethol ohonom wedi cael 2.1 neu uwch fel canlyniad terfynol, cefn y rhwyd ;-) ! Fel finnau, mae sawl un fu ar y cwrs yn dod yn ôl i'r ddinas ym mis Medi i ddilyn cwrs LPC, sef y cwrs ol-radd sydd angen ei wneud cyn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae ambell i un arall am dreulio blwyddyn neu ddwy fel assistants yn dysgu yn Ffrainc, rhywbeth 'swn i wrth fy modd yn gwneud hefyd!

Helo, croeso a diolch am ddod draw!

Dyma'r cofnod cyntaf mewn blog a fydd, rwy'n gobeithio, yn gyfraniad arall i fwrlwm y Rhithfro, sef y rhwydwaith hwnnw o flogiau Cymraeg sydd wedi gweld cryn twf yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Roedd gena'i safle we ers talwm hefyd, ond oherwydd amryw ffactorau (diffyg cyfrifiaduron rhydd yn y coleg, diffyg amser, diffyg 'mynedd), 'doeddwn i ddim yn gweld pwynt cario ymlaen gyda'r peth. Gyda dyfodiad www.maes-e.com, serch hynny, 'dwi 'di bod yn defnyddio'r we yn amlach ar gyfer trafod pynciau'r dydd nag y bum i erioed o'r blaen. Yn ail beth, mae hwylustod, symlder ac eflen rhyngweithiol y rhyngwyneb blogio yn ei wneud yn hawsach nag erioed i gynnal safle we personol o safon.

Cyn bwrw ati gyda'r blog yma, efallai dylid ystyried beth fydd ei gynnwys. Mewn gwirionedd, tydw i ddim wedi penderfynu yn iawn eto yr union bethau wna'i gyfrannu, ond dylai'r teitl fod yn ddisgrifiad da o'r hyn dwi'n ei anelu ato. Fel llyfr lloffion yn y cigfyd, casglu tipyn o bob dim y byddaf mae'n debyg. Trafod beth bynnag sydd o ddiddordeb imi, a hynny yn amrywio yn unol â'r amgylchiadau a'r pwnc dan sylw.

Hwyl am y tro.