Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Diwedd prifysgol : dechrau bywyd go iawn!

Mae'r arholiadau wedi darfod, y cwrs wedi darfod, cyfnod o 5 mlynedd o goleg wedi darfod. Rargian, aeth petha'n gyflym do!

'Dwi nôl yn Seion am y gwyliau, yn dilyn pythefnos olaf o weithgareddau digon amrywiol yng Nghaerdydd. Gafon ni barti "housecooling" (yn hytrach na housewarming) rhwng rhif 31 a 33 ar y 9fed o'r mis, trefnwyd barbeciw a 'steddfod dafarn gan y Gym Gym yn y Mochyn Du ar nos Iau y 15fed, ges i arholiadau mewn cyfraith teulu, eiddo masnachol, PCFSMA a "private client", yna i gloi'r cyfan mi gafon ni ginio ffurfiol i'r LPC yng ngwesty'r Jury's (enw addas iawn!) echnos.

Mae'n rhyfedd meddwl sut mae pethau wedi dod at eu terfyn mor sydyn. Er, mae gen i ddigonedd o bethau i mi edrych ymlaen tuag atyn nhw yn ystod yr wythnosau nesaf:, gan gynnwys: Llydaw am wyliau o ddydd Gwener yma ymlaen, canlyniadau'r arholiadau ynghanol mis Gorffennaf, cychwyn swydd haf yn edrych trwy hen weithredoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn, a sortio rhywle i fyw o fis Medi ymlaen.

I'r gwir hoff Bae...

Henffych, gyd-syrffwyr y we fyd eang.

Newydd ddarfod y darlithoedd a'r gwersi yn y coleg. Cefais fy nhiwtorial olaf -mewn Eiddo Masnachol - ar b'nawn Gwener yr 2il o Fehefin, union 9 mis a diwrnod ar ôl dechrau'r cwrs nôl yn nechrau mis Medi. Mae'r amser wedi fflio mynd ers hynny, heb os. A gyda diwedd gwersi mae angen paratoi at yr arholiadau sydd ar y gorwel. Mi fydd fy un cyntaf - mewn PCFSMA* - ddydd Iau yma, sef diwrnod ar ôl i rhai o genod y ty orffen rhai nhw. Braf ar rai, de?

'Roedd hi'n ofnadwy o boeth heddiw. Siwr i chi, mae'r haf wedi hen gyraedd "Tropical South Wales". Aeth criw ohonom i lawr i'r bae i wneud y gorau o'r tywydd, gan fynd am ginio Sul yng ngardd gwrw tafarn y Packet, cyn mentro tuag at y cei am rywfaint o hufen ia o siop Cadwaladers. Tra'n sbio dros y bae tuag at y morglawdd, sylwom ar y bryniau ar y gorwel ochr draw i For Hafren. Gwlad yr Haf yn Lloegr oedd i'w weld. Yn anffodus, pan dywedwyd hyn 'roedd Ellen yn credu taw son am y bryncyn cyfagos gyferbyn â'r bae oeddan ni (Penarth, hynny yw). Roedd hi methu coelio bod arfordir Lloegr mor agos i fae Caerdydd ;-). How we laughed, chwedl y Sais!

Son am Gaerdydd, mi fydd hi'n rhyfedd gadael ar ddiwedd y mis. Fydd 'na'm rhagor o goleg, na Gym Gym, na 31-33 Stryd Thesiger i'r boi hwn. Ta waeth, heblaw am gyfnod tramor yn Llydaw yn 2003-2004 'dwi 'di bod yn y capityl siti ers 2001 ac mae angen symud ymlaen i diroedd newydd. Dim mod i'n ymadael â'r ddinas am byth cofiwch - 'dwi'n siwr o ddod yn ôl o bryd i'w gilydd fel ymwelydd ar y penwythnos. Pwy a wyr, ella mi ddychwela'i i fyw yma yn y dyfodol, sgenai'm syniad ddeud gwir.


* h.y. "Professional Conduct, Client Care and the Financial Services and Markets Act 2000". Dwn i ddim pam goblyn fysan nhw ddim yn galw'r papur yn rhywbeth symlach fel "Solicitor's Ethics", gan mai dyna beth ydi o yn y bôn.