Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Sesiwn Fawr 2005

Es i i'r Sesiwn Fawr yn Nolgellau y penwythnos hwn. Mae'r Sesiwn yn wastad yn gyfle gwych i wrando ar gerddoriaeth fyw o safon yn ogystal â chwrdd â ffrindiau o'r coleg neu oddi cartref (neu o lefydd eraill), a 'doedd eleni ddim yn eithriad o gwbl. 'Dwi erioed wedi gweld gymaint o bobl dwi'n nabod trwy goleg yn Sesiwn â'r hyn welais i y flwyddyn yma. Yn fwy 'na hynny, dydw i erioed wedi gweld gystal tywydd yn Nolgellau!

Fel y gellid disgwyl bellach, roedd y gig nos Wener dan ei sang gyda'r Super Furry Animals (ymysg eraill) yn chwarae. Un o uchafbwyntiau'r noson i mi oedd gwrando ar Sleifar a'r Teulu, prosiect hip hop diweddaraf MC Sleifar (Steffan Cravos). Gyda rhai fel Aron a Dyl Mei o Pep Le Pew yn cymryd rhan yn ogystal â Cynan Llwyd o Kenavo, cafwyd perfformiad llawn arddeliad o'r brif lwyfan gan y criw talentog yma. Dydw i dim yn cofio gymaint o'r Super Furries, ond roeddan nhw hefyd wedi gwneud set penigamp, er mae rhaid imi gyfaddef 'mod i'n anghyfarwydd â lot o'r caneuon newydd sydd ganddyn nhw. Hen bryd imi brynu rhai o'r albymau maen nhw wedi rhyddhau ers Mwng, dwi'n meddwl!

Roedd yna hefyd dipyn go lew o fandiau gwerth chweil yn chwarae ddydd Sadwrn. Yn y p'nawn, es i weld y grwp cajun Cymraeg o ardal Bangor, Cajuns Denbo, yn perfformio amrywiaeth o ganeuon oddi ar eu halbwm newydd, "Dwy Daith", yn y Theatr Fach yng nghanol y dref. Hwyrach ymlaen, welais i Frizbee a Huw Chiswell lawr yn y Marian. Rwan, dwi yn reit hoff o ganeuon Frizbee, a mae gena'i'r albwm "Hirnos", ond oes rhaid iddyn nhw swnio gymaint fel Big Leaves? Mae un o'u caneuon yn swnio yn union fel Seithenyn! O ran Chiz, mi wnaeth set ddigon snazzy gyda'i biano gwyn a "cherddorfa" o sacsoffons a offerynnau pres eraill, gan gloi ei berfformiad efo'i ddwy gan mwyaf adnabyddus, "Y Cwm" a "Rhywbeth o'i Le". Yna, i gloi'r noson, cafwyd supergroup o fandiau Blaenau Ffestiniog o'r enw Estynedig Vat, sef cyfuniad o Estella, Anweledig a Vates. Yn anffodus, 'roeddwn i yn sefyll reit yng nghefn y dyrfa ac methu'n lan a chlywed y gitar fas. Ta waeth, 'roedd yr awyrgylch yn un ddigon hwyliog a'r artistiaid i weld wrth eu boddau; dwi jyst yn gobeithio wnawn nhw ailddarlledu'r gig ar S4C yn fuan...

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home