Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Taith Gerdded Cymru X

Y penwythnos hwn, penderfynais ddianc o gynnwrf Thesiger Street a'r brifddinas gan ffoi "tua'r gorllewin", chwedl* Tecwyn Ifan!

Roedd yna daith gerdded wedi ei threfnu gan grwp Cymru X yn y De Orllewin drwy ddydd Sadwrn, yn cychwyn o gastell Cydweli ben bore a gorffen yn croesi'r afon Llwchwr i mewn i sir Abertawe ddiwedd y prynhawn. Ddaru ni ddilyn y llwybr arfordirol, gan basio llefydd mor amrywiol ag aber y Gwendraeth, Fforest Pen-bre, Parc Arfordir Llanelli (lle bu'r 'steddfod yn 2000), corsydd Penclacwydd, clwb golff Machynys a gweithfeydd Trostre. Yn ddigon ffodus, mi arhosodd y tywydd yn sych a heulog drwy'r dydd gan adael inni werthfawrogi'r tirlun.

Er hynny, dwi'n dal i feddwl y byddai'n well cael taith byrrach gan Cymru X y tro nesaf (os oes bwriad cael un arall!). Cerddwyd ychydig dros ugain milltir i gyd. Mae hynny fel mynd yn ddi-stop o Fangor i Gaergybi, sydd yn goblyn o bellter ar droed, hyd yn oed ar safonau Llwyd o'r Bryn. Ac fel sawl un a aeth, mae'r traed dal i frifo o'r holl brofiad! Eto i gyd, roedd yna giang rhadlon a siaradus o gerddwyr ar y daith, rhaid imi ddweud.

I gloi, bu'n benwythnos egniol iawn am newid. Rhaid imi fynd rwan, mae'r gwaith coleg yn galw. Hwyl.

* At sylw C.D.: Sylwer mai "chwedl" dwi'n ei ddeud, ac nid "chwadl"!!?! ;-)

Cam yn nes at bapur dyddiol Cymraeg







Yn dilyn cyfnod hir a llafurus o godi ymwybyddiaeth, cefnogaeth a chyfalaf, heddiw mi ddaru'r prosiect at sefydlu papur dyddiol Cymraeg gymryd cam mawr ymlaen.

Mae Dyddiol Cyf., y cwmni sydd tu ôl y cynllyn i sefydlu Y Byd - y papur dyddiol cyntaf erioed yn y Gymraeg - wedi cyraedd y trothwy o gasglu £300,000 oddi wrth gyfranddalwyr unigol. Mae hyn yn arwyddocaol i'w llwyddiant, oherwydd bod angen y fath swm o gyfranddalwyr unigol er mwyn (a) galluogi denu buddsoddiant o du'r sector preifat, a (b) sicrhau bod perchnogaeth y papur yn aros yn nwylo pobl Cymru. Rhaid dweud bod angen y ddau ffactor yma er mwyn sicrhau llwyddiant a prestige y papur.

Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at weld y papur yn gweld golau dydd. Gan bod yna bellach llawer mwy o sicrwydd ariannol, o leiaf fydd modd i bethau symud ymlaen yn llawer cynt gyda'r Byd yn 2006.