Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Eisteddfod Eryri a'r Cyffuniau 2005

Gyda'r Sesiwn Fawr 'di hen fynd a mis Gorffennaf yn prysur dirwyn i ben, dyma'r 'Steddfod ar ein pennau cyn inni droi! Efallai mai 'fory mae'r brifwyl yn cychwyn yn swyddogol, ond 'rydw i eisioes wedi bod yn treulio darn go helaeth o'r wythnos hon yn gwneud gwaith paratoi ar ei chyfer. Ddechrau'r wythnos, bu angen dosbarthu posteri yn hysbysebu gigs Cymdeithas yr Iaith o amgylch yr ardal, yna'r deuddydd diwethaf bues i'n helpu gosod eu stondin. Er gwaetha'r glaw trwm a'r holl fwd heddiw, mae popeth ar faes y Faenol bellach yn ei le ar gyfer yfory.

Mi fydd y 'Steddfod hon, 'dwi'n credu, yn un dra gwahanol imi. Hon fydd yr un gynta' imi ei gweld yn dod i'r ardal 'dwi'n byw ynddi, sef Eryri (byddai "Arfon" wedi bod yn enw digon addas i'r un yma, serch hynny) . Yn fwy na hynny, mae'r maes bron ar stepan drws, gan fy mod yn byw yn Seion ym mhen ucha plwy' Llanddeiniolen, gwta bum munud o'r Faenol! Oherwydd bod hi mor lleol, mae hi hefyd am fod yn 'Steddfod reit brysur. Byddai'n gweithio (gwirfoddoli) ar stondin y Gymdeithas rhan fwya' o foreau, a byddaf yn gwneud peth stiwardio mewn gigs ar ddechrau'r wythnos. Ychwanegir at hynny yr oll gymdeithasu, ralis a chyfarfodydd sydd rhaid 'neud!

Dweud y gwir, 'dwi'n edrych ymlaen at Eryri 2005...


0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home