Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

2/1/06: Rali dros Ddeddf Iaith - Caerdydd















Dyma gair bach i hysbysebu bod Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali i alw am ddeddf iaith newydd Ddydd Llun, 2il o Ionawr 2006 yng Nghaerdydd. Ceir rhagor o wybodaeth ar y daflen uchod. Fyddai'n mynd i lawr o'r gogledd am y ddinas y diwrnod hwnnw, felly gyda bach o lwc dyliwn i gyraedd jyst mewn pryd am hwn!

Os hoffech chi wybod mwy am yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Gymraeg newydd, pam bod angen un, ei goblygiadau ac ati, ymwelwch â'r gwefannau canlynol:

Ymgyrch Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG)

Galwad y cyn-Archdderwydd, Robyn Lewis, dros Ddeddf Iaith newydd

Manylion am ymgyrch deddf iaith CYIG ar Wicipedia

Dro Dolig 2005

Bues i ar daith gerdded o gwmpas fy nghynefin ar y 27ain (ddoe), sef ardal Llanddeiniolen. Meddyliais y byddai'n gyfle da i losgi rywfaint o'r twrci i ffwrdd tra'n mwynhau golygfeydd Arfon ar ddiwrnod braf (ac oer) ddiwedd Rhagfyr.













Dechreuom o faes parcio'r Gors Bach ychydig ar ôl deg o gloch y bore, gan gerdded at gopa Dinas Dinorwig, hen gaer Geltaidd a saif ryw chwarter milltir i'r de o egwlys plwyf Llanddeiniolen. Fel y gwelwch o'r lluniau yn fy nghyfrif Flickr (geshi gamera digidol i 'dolig, hwre!), mae'r safle mewn man uchel iawn o gymharu â'r gwastadeddau o'i gwmpas, gyda golygfeydd godidog o Eryri yn ymestyn o'r Eifl i'r Gogarth. Fan hyn y cynhaliwyd y seremoni gorsedd y beirdd modern cyntaf yn Arfon yn ôl bob son. Pa le gwell ellwch chi gael i'w gynnal, hefyd?!















Ar ôl ymweld â chopa'r Ddinas, cerddom ymlaen lawr lon Cae Meta, hen lon gefn sy'n boblogaidd gyda boy racers y cylch. Diolch i'r nef, 'doedd na'm un yn fan hyn ar ddiwrnod y daith! Wrth adael y lon, croesom ychydig o gaeau drwy stad Glascoed i gyraedd y goedwig lle saif Ffynnon Cegin Arthur. Y ffynnon hon yw tarddiad yr afon Cegin, sydd yn llifo i'r mor yn ymyl Hirael, Bangor. Yn ôl yr haneswyr, ddaru Dafydd Ddu Eryri (bardd o'r 17fed ganrif, nid y DJ) farw yn y Cegin wrth Ynys Iago (rhwng Penisarwaun a Carfan) gan iddo lithro wrth groesi dwr yr afon tra'n teithio adref drwy'r tywyllwch ar ôl bod ym Mangor un noson. Goblyn o sesh yn yr Octagon i Dafydd y noson honno, mae'n rhaid!















Cyn pen dim yr oedd hi'n amser cinio, felly i'r Gors Bach y dychwelom am gawl, bara a pheint, cyn gwneud stint mwy hamddenol yn y p'nawn heibio Seion, Pen Sgoins a'r Gwyndy cyn dychwelyd i'r Gors Bach eto. Rhaid diolch Sel Williams Llanrug am drefnu'r daith hon. Braf oedd gweld gymaint yn dod ar y daith, pawb yn mwynhau eu hunain yn cerdded a chymdeithasu. 'Roedd yn neilltuol o dda gweld gymaint yn y Gors Bach hefyd, gan mai fan hyn yw fy nhafarn leol, fy "local" fel petai.

Hwyl am rwan.

Hydref 2005 - golwg yn ôl

Ar ôl misoedd mewn trwmgwsg, mae'r llyfr lloffion wedi aileffro!

Fel y byddwch chi wedi gweld o'm cofnodion blaenorol, 'dwi di bod yn treulio'r tymor diwethaf yn ôl yng Nghaerdydd yn gwneud cwrs LPC - hwn yw'r cwrs sydd angen ei wneud rhwng gradd gyfraith a bwrw "erthyglau". Yn wir, mae o wedi bod yn dymor brysur iawn imi o ran gwaith: cychwyn darlithoedd am naw bob bore, hyd at 5 awr y dydd o wersi - byd hollol gwahanol i'r gradd! Ac eto, er gwaetha'r pwysau oriau a darllen, mae'n llawer mwy ymarferol a pherthnasol (a diddorol mewn rhai ystyron) na llawer o'r hyn y bues i'n gwneud i'r LL.B. Gawn ni weld sut eith tymor dau yn y flwyddyn newydd...
















Ysgol Gyfraith, Prifysgol Caerdydd


Ni fu'r tymor diwethaf heb ei ddigwyddiadau allgyrsiol, chwaith. Yn ogystal â'r gigs, y cwisiau yn y Goat Major a'r amryw benwythnosau rygbi, cynhaliwyd y Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth ddechrau Tachwedd, sef yr un ola yr af iddi fel myfyriwr llawn-amser mae'n debyg. Roedd o fel unryw penwythnos rhyng-gol' arall ddweud gwir, heblaw imi lwyddo cael llawr i gysgu arno yn nhy Aled Barti, sy'n well na ryw gampfa swnllyd yn ymyl Pantycelyn. Bechod bod bysiau Caerdydd yn gadael hanner ffordd yn ystod perfformiad Mim Twm Llai!

Ar y ffrynt gwleidyddol/ymgyrchoedd, cynhaliwyd rali gan y Gymdeithas draw yng Nghaerfyrddin ddecrhau'r mis (3/12). Dweud gwir, dyma oedd y tro cyntaf imi ymweld yn iawn â'r dref farchnad brysur hon. Gwych oedd clywed y gefnogaeth a'r areithiau pigog gan mawrion lleol Sir Gâr fel Adam Price, Rhodri Glyn Thomas a Cefin Campbell yn galw am ddeddf iaith newydd, ond siom oedd gweld cyn lleied yn troi i fyny i wrando ar y sgwar. Ella bod yna 100 i 200 yno ar y pryd, dim mwy na hynny, a llawer o rheiny yn aelodau selog wedi teithio lawr o Aberystwyth. Arwydd o ddifaterwch pobl heddiw at unryw bwnc "gwleidyddol"? Pwy a wyr. O leia roedd yna nifer da yn ymuno â'r crac ym mharti cartref newydd Nanw a Creyr y Nos yn y dre gyda'r hwyr!















Rali Cymdeithas yr Iaith, Caerfyrddin 3/12/05 (Llun: Rhys Llwyd)


Y digwyddiad mawr arall fu'n aros yn y cof imi y tymor hwn oedd cinio nadolig y coleg (ball y Gym Gym), a gynhaliwyd ar y 13eg o Ragfyr yng ngwesty'r Hilton. Crand iawn, rhaid dweud. 'Roedd y bwyd yn iawn o'r hyn 'dwi'n cofio, ond teimlais bod y noson wedi mynd heibio yn eithriadol o gyflym. 'Doedd y ffaith eu bod yn cau'r lle am hanner nos ddim yn help, ond o leia parhawyd â'r parti tan yr oriau man yn nhy'r llywydd yn Stryd Harriet, Waun Ddyfal (Cathays).

A son am Waun Ddyfal, bydd yna ambell i newid imi yng Nghaerdydd unwaith 'dwi nôl yn y flwyddyn newydd. Gan bod fy nghartref presennol yn Nhrefynach (Grangetown di hwnna yn Gymraeg) mor eithriadol o bell o'r coleg, 'dwi di penderfynu symud i lofft sbar yn nhy un criw o genod yn y 3edd flwyddyn, ar stryd Thesiger. Dylai hyn arbed llawer iawn o amser imi gyda'r cwrs, yn ogystal â gwneud cymdeithasu gyda chriw coleg ryw fymryn yn haws. Duwadd - dwi'n edrych ymlaen rwan!