Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Fy mhenwythnos calan Mai

Mae'n benwythnos gwyl y banc Mai, amser gwych i ymlacio ryw fymryn!













Jakokoyak ar yr allweddelli yn y Twcan

Nos Wener, es i a chriw o'r coleg draw i'r Twcan newydd ar Ffordd Casnewydd (clwb Journeys gynt) i weld fy nghefnder, Rhys "Jakokoyak" Edwards yn perfformio. Mae'r Twcan yma ddipyn yn wahanol i'r ogof gwyrdd fflashi a fu uwch ben Heol Eglwys Fair ers talwm, gyda llawer llai o ofod sefyll ac awyrgylch tebycach i far cyfandirol na chlwb nos. Yn amlwg, mae natur pensaerniol a gosodiad y lle yn cael dylanwad ar y cleientél sy'n mynychu, yr acwstics ac felly awyrgylch cyffredinol y gig. Yn hyn o beth, er cystal y perfformiad dwi'm yn meddwl taw 'r Twcan yw'r lle gorau i berfformio cerddoriaeth electronig. Gwell byddai i'r clwb drefnu cael grwp roc/acwstig i chwarae yno y tro nesaf.













Jason ar yr allweddelli yn y Mochyn Du

Bues i allan ddoe hefyd (dydd Sadwrn), i grôl Treganna y Gym Gym (sef crôl/digwyddiad olaf y Gym Gym am y flwyddyn tan yr wythnos olaf ym mis Mehefin). Fuo yna rhai allan ers tua hanner dydd, ond ymunais i â'r sbri ddipyn yn hwyrach, gan gyraedd y Kings Castle ychydig cyn chwech o'r gloch. Yn dilyn ymweliad â'r dafarn "Robins" fe lanion ni yn y Mochyn Du, gan dreulio'r rhan fwyaf o'r amser yn canu wrth y piano! Yna tua unarddeg, dyma fi'n cyraedd Clwb i weld y Genod Droog yn chwarae. Roedd gig olaf y grwp Java hefyd ar y noson, ond mi gyrhaeddais yn rhy hwyr i hyn! Ta waeth, roedd y Genod Droog yn plesio'n fawr, yn enwedig o gofio mai hwn 'di'r tro cyntaf imi weld nhw'n canu'n fyw.













Cwestiwn: Pwy sy'n ddrwg? Ateb: Genod Droog

Dyna'r oll sgena'i i ddweud am y penwythnos hyd yn hyn. Dwi'n gobeithio treulio gweddill heddiw a fory yn gwneud fawr o ddim, heblaw am ddarllen ar gyfer gwersi dydd Mawrth. Ond cyn hyn i gyd, mae angen imi fynd i'r launderette i sychu fy nillad....

Hwyl am rwan.

Dwd, Ceren a'r Adventurous Quay

Wrth sgwrsio yn y lolfa yn y ty heno, roeddan ni'n son am ein cynlluniau ni ar gyfer y flwyddyn nesaf, h.y. beth fydd pawb yn gwneud a lle fyddan ni'n byw ar ôl darfod yn y coleg. O ran tai, soniodd Lowri "y Dwd" Davies bod Ceren a hithau yn bwriadu byw y cliché Caerdydd-aidd i'r eithaf, gan eu bod am rannu fflat swanc draw yn y bae ar ôl yr haf. Cyfeiriad beiddgar eu cartref newydd arfaethedig yw fflat rhif 21, Adventurous Quay (neu "adventurous ni" fel mae Lowri yn mynnu dweud !).

Chwarae teg iddyn nhw, maent wedi cynnig gwahoddiad yn barod imi ddod i noson housewarmer eu lle newydd nhw ym mis Medi. Maent hefyd yn estyn croeso i bawb sy'n nabod nhw, gan sicrhau bod criw niferus ohonoch yn dod i noson lawnsio fawreddog yr "adventurous ni".

Rwan 'dwi 'di darfod y cofnod hwn, 'dwi off i fy ngwely. Nos da. zzzzz

Mawrth ac Ebrill 2006: Crynodeb

Peidiwch a phoeni, dydw i ddim wedi anghofio am fodolaeth y blog hwn. 'Dwi 'di bod yn eitha prysur o ran gwaith coleg a gwaith allgyrsiol yn ystod y tymor diwethaf, ond rwan mod i ar wyliau am wythnos mae gen i gyfle i wneud cofnod arall o'r diwedd! Dyma felly grynodeb o uchafbwyntiau'r mis a hanner diwethaf...

Coleg a gyrfa: bellach ar ganol fy nhrydydd tymor ar yr LPC, yn dilyn y pynciau dewisiol. O ran gyrfa, mae pethau'n edrych yn dda; rwyf wedi sicrhau cytundeb hyfforddiant (h.y. "erthyglau") mewn cwmni yn y gogledd o fis Medi ymlaen. Dim ond pasio popeth ar yr LPC sydd angen imi wneud rwan :-/ !

Gwyl Ddewi: diwrnod digon prysur oedd dydd ein nawddsant i mi eleni. Bum i lawr ym mae Caerdydd yn y bore i weld agoriad swyddogol y Senedd newydd, cyn ymuno hefo'r orymdaith trwy ganol y ddinas yn y p'nawn (gweler yr oriel luniau). Er cymaint y niferoedd oedd yn y Bae ac yn yr orymdaith, buasai'n braf gweld mwy o beth wmbrath yn mynychu'r digwyddiadau hyn. Byddai gwneud Gwyl Ddewi yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yn man cychwyn da i gyraedd y nod yma.

Eisteddfod Ryng-golegol: cafwyd y rhyng-gol' flynyddol yng ngholeg Caerdydd eleni. Yn y ganolfan chwaraeon a chymdeithasol gyferbyn ag Ysbyty Mynydd Bychan i fod yn fanwl gywir. 'Roedd gan yr un yma ystyr arbennig imi, gan mai hon oedd fy eisteddfod ryng-gol' olaf fel myfyriwr! Gallwch weld lluniau'r penwythnos ar y cyfrif Flickr, o'r noson gymdeithasol yn Callaghans yng nghanol y ddinas ar y nos Wener, i'r cystadlu llwyfan yn ystod p'nawn dydd Sadwrn, i'r gig yn yr Undeb Myfyrwyr gyda'r nos. Er gwaetha'r ffaith i ni ddod yn ail (agos!) i Aberystwyth, mi 'roedd hi'n braf gweld cymaint o bwyslais ar y cymryd rhan. Yr unig anfantais efo hyn oedd i gystadlaethau redeg yn hirach na'r disgwyl gyda'r niferoedd mawr o bob coleg yn cystadlu, gan orfodi ni fel trefnwyr ohirio rhai cystadlaethau poblogaidd megis y sgets oherwydd diffyg amser. Ta waeth am hynny, mae'r brwdfrydedd cyffredinnol yma'n argoeli'n dda i barhad a chefnogaeth yr eisteddfod ryng-golegol. Yn wir, tybed sut wneith Caerdydd flwyddyn nesaf ym Mangor? Pwy a wyr.

Cyfarfod Cyffredinnol CYIG: Bues i hefyd yn Aberystwyth ar gyfer cyfarfod blynyddol y Gymdeithas. Cafwyd cyflwyniad diddorol a gwerthfawr gan ymchwilydd iaith o Barcelona, a oedd yn trafod profiad llywodraeth Catalonia o ddeddfu o blaid y Gatalaneg. Bechod nad oedd Gweinidog Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon y Llywodraeth yn bresennol i wrando ar y cynghorion hyn. Dweud y gwir, bechod oedd gweld cyn lleied yn troi i fyny i'r cyfarfod blynyddol yn y Morlan. Mae'r diffyg niferoedd hyn yn codi cwestiwn ehangach yn fy marn i: fedar y Gymdeithas ddim fforddio bellach i ddewis a dethol ideoleg economaidd a'i glymu i mewn i'w mudiad. Os am lwyddo fel mudiad, mae angen bod yn fudiad iaith with no strings attached. Mae hynny'n golygu hepgor ag unryw ymgais i fod (neu ymddangos) fel grwp "trendi lefty/sosialaidd" arall. Mewn cneuen, rhaid i ymgyrch dros y Gymraeg fod yn achos sy'n gallu denu unigolion dros y sebctrwm wleidyddol ac oedrannol yn ddiwahan. Er enghraifft: mae swildod hoelion wyth gwleidyddol-gywir y Gymdeithas i gydnabod a chefnogi ffaith gymdeithasol y Fro Gymraeg tra mae'n dal i fodoli (gan ddangos eu hanwybodaeth mewn cynllunio gofodol) yn nacàu Cymry Cymraeg cyffredin y gogledd a'r gorllewin rhag uniaethu gyda mudiadau'r Gymdeithas.

Diwrnod Sant Padrig: Bu hefyd yn amser gwyl sant Padrig ym mis Mawrth, sef cyfle i fynd am sesh ar yr amod bod iddi ryw thema Wyddelig! Diolch i'r drefn mae gen i grys Celtic felly mi wisgais i hwnnw ar Grôl Gwyddelig y Gym Gym. Ceir lluniau ohonom yn darfod yn yr O'Neills mawr yn yr oriel Flickr.

Gwleidyddiaeth myfyrwyr: I gloi, cafwyd cyfarfod cyn y gwyliau pasg i drafod sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae gwir angen Undeb Gymraeg annibynnol yng Nghaerdydd i ddwyn pwysau ar yr Undeb Myfyrwyr, y Brifysgol a'r Llywodraeth i ddarparu gwell ddarpariaeth i fyfyrwyr Cymraeg, o fewn y coleg ac yn genedlaethol. Da oedd gweld cefnogaeth brwd i'r egwyddor gan y myfyrwyr, a'r gobaith rwan yw cynnal cyfarfod cyffredinnol ar ôl y gwyliau i ethol pwyllgor gwaith, llunio cyfansoddiad drafft a threfnu gweddill ochr gweinyddol y mudiad newydd hwn.