Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

I'r gwir hoff Bae...

Henffych, gyd-syrffwyr y we fyd eang.

Newydd ddarfod y darlithoedd a'r gwersi yn y coleg. Cefais fy nhiwtorial olaf -mewn Eiddo Masnachol - ar b'nawn Gwener yr 2il o Fehefin, union 9 mis a diwrnod ar ôl dechrau'r cwrs nôl yn nechrau mis Medi. Mae'r amser wedi fflio mynd ers hynny, heb os. A gyda diwedd gwersi mae angen paratoi at yr arholiadau sydd ar y gorwel. Mi fydd fy un cyntaf - mewn PCFSMA* - ddydd Iau yma, sef diwrnod ar ôl i rhai o genod y ty orffen rhai nhw. Braf ar rai, de?

'Roedd hi'n ofnadwy o boeth heddiw. Siwr i chi, mae'r haf wedi hen gyraedd "Tropical South Wales". Aeth criw ohonom i lawr i'r bae i wneud y gorau o'r tywydd, gan fynd am ginio Sul yng ngardd gwrw tafarn y Packet, cyn mentro tuag at y cei am rywfaint o hufen ia o siop Cadwaladers. Tra'n sbio dros y bae tuag at y morglawdd, sylwom ar y bryniau ar y gorwel ochr draw i For Hafren. Gwlad yr Haf yn Lloegr oedd i'w weld. Yn anffodus, pan dywedwyd hyn 'roedd Ellen yn credu taw son am y bryncyn cyfagos gyferbyn â'r bae oeddan ni (Penarth, hynny yw). Roedd hi methu coelio bod arfordir Lloegr mor agos i fae Caerdydd ;-). How we laughed, chwedl y Sais!

Son am Gaerdydd, mi fydd hi'n rhyfedd gadael ar ddiwedd y mis. Fydd 'na'm rhagor o goleg, na Gym Gym, na 31-33 Stryd Thesiger i'r boi hwn. Ta waeth, heblaw am gyfnod tramor yn Llydaw yn 2003-2004 'dwi 'di bod yn y capityl siti ers 2001 ac mae angen symud ymlaen i diroedd newydd. Dim mod i'n ymadael â'r ddinas am byth cofiwch - 'dwi'n siwr o ddod yn ôl o bryd i'w gilydd fel ymwelydd ar y penwythnos. Pwy a wyr, ella mi ddychwela'i i fyw yma yn y dyfodol, sgenai'm syniad ddeud gwir.


* h.y. "Professional Conduct, Client Care and the Financial Services and Markets Act 2000". Dwn i ddim pam goblyn fysan nhw ddim yn galw'r papur yn rhywbeth symlach fel "Solicitor's Ethics", gan mai dyna beth ydi o yn y bôn.

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home