Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Diwrnod graddio

Bues i lawr yng Nghaerdydd echdoe ar gyfer fy seremoni graddio, ac am ddiwrnod poeth oedd o - dros 30 gradd celsius ganol dydd yn ôl pob son. O na bai'r tywydd fel hyn tra'r oeddwn yn astudio at fy ngradd! Ac efallai nad diwrnod chwilboeth fel ddoe oedd y diwrnod delfrydol i wisgo clogyn a chap du (a rhostio/chwysu chwartiau o ganlyniad), ond o leiaf mae'n well na'r gwynt a glaw arferol sydd yn yn fynych yn y rhan yna o'r byd.

Yn Neuadd Dewi Sant y cynhaliwyd y seremoni, ac roeddan ni (h.y. myfywyr yr ysgol gyfraith) yn derbyn ein graddau yn ystod cynulliad cyntaf y dydd am 10.30yb, sef yr un pryd â myfyrwyr o'r adrannau Cerddoriaeth ac Addysg Grefyddol. Cyfuniad diddorol o adrannau, mae'n siwr! Yn ogystal, derbynodd y cyfansoddwr Cymreig, Karl Jenkins, gymrodaeth er anrhydedd oddi wrth y Brifysgol. Serch hynny, ni fyfyrwyr y gyfraith gyda'n sashes piws oedd y mwyafrif llethol o'r ddarpar-raddedigion. Mi aeth y seremoni i gyd yn iawn, a'r unig (fan-)gamgymeriad a wnaed oedd y ffaith bod yr argraffwyr wedi cam-rwymo'r rhaglen swyddogol ryw fymryn.

Yn dilyn cloi'r seremoni am hanner dydd, ddaru ni adael y Neuadd er mwyn dal tacsi yn ôl i'r Brifysgol i gael tamaid i fwyta a llymaid i yfed. Mewn marquee bach tu allan i'r Brif Adeilad y cynhaliwyd y reception gan yr ysgol gyfraith, ac er bod y bwffe yn ddigon i lenwi rhywun, braidd yn undonog ydoedd - gystal a dweud fy mod i wedi gweld dewis gwell mewn bwffe gan y coleg cyn echdoe! Ta waeth, cefais gyfle gwych yn y marquee i roi'r byd yn ei le efo myfyrwyr eraill fu'n dilyn yr un cwrs a fi, sef LL.B. cydanrhydedd yn y Gyfraith a Ffrangeg. Neis hefyd oedd gweld bod y mwyafrif llethol ohonom wedi cael 2.1 neu uwch fel canlyniad terfynol, cefn y rhwyd ;-) ! Fel finnau, mae sawl un fu ar y cwrs yn dod yn ôl i'r ddinas ym mis Medi i ddilyn cwrs LPC, sef y cwrs ol-radd sydd angen ei wneud cyn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae ambell i un arall am dreulio blwyddyn neu ddwy fel assistants yn dysgu yn Ffrainc, rhywbeth 'swn i wrth fy modd yn gwneud hefyd!

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home