Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Mawrth ac Ebrill 2006: Crynodeb

Peidiwch a phoeni, dydw i ddim wedi anghofio am fodolaeth y blog hwn. 'Dwi 'di bod yn eitha prysur o ran gwaith coleg a gwaith allgyrsiol yn ystod y tymor diwethaf, ond rwan mod i ar wyliau am wythnos mae gen i gyfle i wneud cofnod arall o'r diwedd! Dyma felly grynodeb o uchafbwyntiau'r mis a hanner diwethaf...

Coleg a gyrfa: bellach ar ganol fy nhrydydd tymor ar yr LPC, yn dilyn y pynciau dewisiol. O ran gyrfa, mae pethau'n edrych yn dda; rwyf wedi sicrhau cytundeb hyfforddiant (h.y. "erthyglau") mewn cwmni yn y gogledd o fis Medi ymlaen. Dim ond pasio popeth ar yr LPC sydd angen imi wneud rwan :-/ !

Gwyl Ddewi: diwrnod digon prysur oedd dydd ein nawddsant i mi eleni. Bum i lawr ym mae Caerdydd yn y bore i weld agoriad swyddogol y Senedd newydd, cyn ymuno hefo'r orymdaith trwy ganol y ddinas yn y p'nawn (gweler yr oriel luniau). Er cymaint y niferoedd oedd yn y Bae ac yn yr orymdaith, buasai'n braf gweld mwy o beth wmbrath yn mynychu'r digwyddiadau hyn. Byddai gwneud Gwyl Ddewi yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yn man cychwyn da i gyraedd y nod yma.

Eisteddfod Ryng-golegol: cafwyd y rhyng-gol' flynyddol yng ngholeg Caerdydd eleni. Yn y ganolfan chwaraeon a chymdeithasol gyferbyn ag Ysbyty Mynydd Bychan i fod yn fanwl gywir. 'Roedd gan yr un yma ystyr arbennig imi, gan mai hon oedd fy eisteddfod ryng-gol' olaf fel myfyriwr! Gallwch weld lluniau'r penwythnos ar y cyfrif Flickr, o'r noson gymdeithasol yn Callaghans yng nghanol y ddinas ar y nos Wener, i'r cystadlu llwyfan yn ystod p'nawn dydd Sadwrn, i'r gig yn yr Undeb Myfyrwyr gyda'r nos. Er gwaetha'r ffaith i ni ddod yn ail (agos!) i Aberystwyth, mi 'roedd hi'n braf gweld cymaint o bwyslais ar y cymryd rhan. Yr unig anfantais efo hyn oedd i gystadlaethau redeg yn hirach na'r disgwyl gyda'r niferoedd mawr o bob coleg yn cystadlu, gan orfodi ni fel trefnwyr ohirio rhai cystadlaethau poblogaidd megis y sgets oherwydd diffyg amser. Ta waeth am hynny, mae'r brwdfrydedd cyffredinnol yma'n argoeli'n dda i barhad a chefnogaeth yr eisteddfod ryng-golegol. Yn wir, tybed sut wneith Caerdydd flwyddyn nesaf ym Mangor? Pwy a wyr.

Cyfarfod Cyffredinnol CYIG: Bues i hefyd yn Aberystwyth ar gyfer cyfarfod blynyddol y Gymdeithas. Cafwyd cyflwyniad diddorol a gwerthfawr gan ymchwilydd iaith o Barcelona, a oedd yn trafod profiad llywodraeth Catalonia o ddeddfu o blaid y Gatalaneg. Bechod nad oedd Gweinidog Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon y Llywodraeth yn bresennol i wrando ar y cynghorion hyn. Dweud y gwir, bechod oedd gweld cyn lleied yn troi i fyny i'r cyfarfod blynyddol yn y Morlan. Mae'r diffyg niferoedd hyn yn codi cwestiwn ehangach yn fy marn i: fedar y Gymdeithas ddim fforddio bellach i ddewis a dethol ideoleg economaidd a'i glymu i mewn i'w mudiad. Os am lwyddo fel mudiad, mae angen bod yn fudiad iaith with no strings attached. Mae hynny'n golygu hepgor ag unryw ymgais i fod (neu ymddangos) fel grwp "trendi lefty/sosialaidd" arall. Mewn cneuen, rhaid i ymgyrch dros y Gymraeg fod yn achos sy'n gallu denu unigolion dros y sebctrwm wleidyddol ac oedrannol yn ddiwahan. Er enghraifft: mae swildod hoelion wyth gwleidyddol-gywir y Gymdeithas i gydnabod a chefnogi ffaith gymdeithasol y Fro Gymraeg tra mae'n dal i fodoli (gan ddangos eu hanwybodaeth mewn cynllunio gofodol) yn nacàu Cymry Cymraeg cyffredin y gogledd a'r gorllewin rhag uniaethu gyda mudiadau'r Gymdeithas.

Diwrnod Sant Padrig: Bu hefyd yn amser gwyl sant Padrig ym mis Mawrth, sef cyfle i fynd am sesh ar yr amod bod iddi ryw thema Wyddelig! Diolch i'r drefn mae gen i grys Celtic felly mi wisgais i hwnnw ar Grôl Gwyddelig y Gym Gym. Ceir lluniau ohonom yn darfod yn yr O'Neills mawr yn yr oriel Flickr.

Gwleidyddiaeth myfyrwyr: I gloi, cafwyd cyfarfod cyn y gwyliau pasg i drafod sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae gwir angen Undeb Gymraeg annibynnol yng Nghaerdydd i ddwyn pwysau ar yr Undeb Myfyrwyr, y Brifysgol a'r Llywodraeth i ddarparu gwell ddarpariaeth i fyfyrwyr Cymraeg, o fewn y coleg ac yn genedlaethol. Da oedd gweld cefnogaeth brwd i'r egwyddor gan y myfyrwyr, a'r gobaith rwan yw cynnal cyfarfod cyffredinnol ar ôl y gwyliau i ethol pwyllgor gwaith, llunio cyfansoddiad drafft a threfnu gweddill ochr gweinyddol y mudiad newydd hwn.

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home