Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Taith Gerdded Cymru X

Y penwythnos hwn, penderfynais ddianc o gynnwrf Thesiger Street a'r brifddinas gan ffoi "tua'r gorllewin", chwedl* Tecwyn Ifan!

Roedd yna daith gerdded wedi ei threfnu gan grwp Cymru X yn y De Orllewin drwy ddydd Sadwrn, yn cychwyn o gastell Cydweli ben bore a gorffen yn croesi'r afon Llwchwr i mewn i sir Abertawe ddiwedd y prynhawn. Ddaru ni ddilyn y llwybr arfordirol, gan basio llefydd mor amrywiol ag aber y Gwendraeth, Fforest Pen-bre, Parc Arfordir Llanelli (lle bu'r 'steddfod yn 2000), corsydd Penclacwydd, clwb golff Machynys a gweithfeydd Trostre. Yn ddigon ffodus, mi arhosodd y tywydd yn sych a heulog drwy'r dydd gan adael inni werthfawrogi'r tirlun.

Er hynny, dwi'n dal i feddwl y byddai'n well cael taith byrrach gan Cymru X y tro nesaf (os oes bwriad cael un arall!). Cerddwyd ychydig dros ugain milltir i gyd. Mae hynny fel mynd yn ddi-stop o Fangor i Gaergybi, sydd yn goblyn o bellter ar droed, hyd yn oed ar safonau Llwyd o'r Bryn. Ac fel sawl un a aeth, mae'r traed dal i frifo o'r holl brofiad! Eto i gyd, roedd yna giang rhadlon a siaradus o gerddwyr ar y daith, rhaid imi ddweud.

I gloi, bu'n benwythnos egniol iawn am newid. Rhaid imi fynd rwan, mae'r gwaith coleg yn galw. Hwyl.

* At sylw C.D.: Sylwer mai "chwedl" dwi'n ei ddeud, ac nid "chwadl"!!?! ;-)

2 Ymatebion:

  • At 9:41 am, Blogger Blewyn said…

    Thesiger st ? Yw hwn wedi ei enwi ar ol Wilfred Thesiger ? Oedd ganddo gysylltiad a Cymru ?

     
  • At 11:17 pm, Blogger G.B.E. said…

    Dim cliw sori, Blewyn. Mae 'na lot o enwau diddorol ar y strydoedd yng Nghathays, erbyn meddwl.

     

Post a Comment

<< Home