Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Wythnos oer o Ionawr

Mae'n wythnos oer o Ionawr yng Nghaerdydd, a 'dwi newydd ychwanegu rywfaint o luniau at fy nghyfrif Fflickr o ddau digwyddiad es i iddyn nhw yn ddiweddar: cyfarfod o'r Gymdeithas a gig yn y Barfly!

Nos Fawrth, es i a giang o genod y ty lawr i'r Bae i Ganolfan y Mileniwm er mwyn mynd i gyfarfod a drefnwyd gan y Gymdeithas yr Iaith i drafod yr angen am ddeddf iaith newydd. Ar y cyfan, 'roedd hi'n noson dda. Cyflwyniad slic a phroffesiynnol gan y trefnwyr, gyda digonedd o Powerpoint mewn golwg! O ran sylwedd, calonogol oedd gweld y croesdoriad o bobl yn cyfrannu, gan gynnwys academydd ar hawliau iaith, cyn-arweinydd o'r Bwrdd Iaith, hyd yn oed gwleidydd o du'r Ceidwadwyr! Trist, er hynny, oedd gweld NEB o lywodraeth y Cynulliad yn fodlon dod. A pham? Efallai bod geiriau Owen John Thomas yn arwyddocaol: mae gan Lafur "rwystr sefydliadol" tuag at y Gymraeg. Yr agwedd gwrth-Gymraeg hyn (a amlygir inter alia gan Kinnock, Huw Lewis Merthyr, "haneswyr" fel Dai Smith a swmp yr undebau) yw'r prif reswm pam na ddylai'r un siaradwr na chefnogwr y Gymraeg byth bleidleisio i'r Blaid Lafur yng Nghymru!

Ar nodyn ysgafnach, 'roedd yna goblyn o gig da yng nghlwb y Barfly neithiwr. Radio Luxembourg yn chwarae, sy'n cynnwys dau aelod o Fethel (Alun Gaffey, sydd hefyd yn canu i Pwsi Meri Mew, a Rhys Spikes). Roedd y lle dan ei sang o fyfyrwyr Senghennydd a'r Gym Gym yn dathlu darfod arholiadau. Er mai clwb cerddoriaeth indie cyffredinnol yw'r Barfly, mae yna siaradwr Cymraeg yn drefnydd yno bellach sydd yn awyddus i gael rhagor o berfformiadau Cymraeg-eu-hiaith yn rhannu nosweithiau gyda bandiau Saesneg. Pwy a wyr, ella fydd na fand Cymraeg arall yn chwarae yna cyn hir.

C'est quoi, le << Llyfr Lloffion >> ?

Mi ges i neges breifat drwy Maes E heddiw gan rywun a oedd wedi dod ar draws y blog. Roedd hi eisiau gwybod ystyr y teitl, y "Llyfr Lloffion". Y gair Cymraeg am "scrapbook" yw llyfr lloffion, rhag ofn oeddach chi ddim yn gwybod.

O leiaf mae'r gohebiaeth yma'n dangos bod 'na rywrai allan yn y rhithfyd mawr yna yn pori'r safle ;-)!

Cartref, coleg, cor a chwis

'Dwi nôl yn y ddinas rwan ers bron i wythnos a hanner, ac yn setlo lawr yn reit sydyn yn y ty newydd yng Nghathays. Dwi'n rhannu efo criw o'r drydedd flwyddyn, sef chwech hogan ac un hogyn (sonnir cryn dipyn amdanyn nhw ar flog yr anarchydd hwnnw, yr Hogyn o Rachub). Maent yn griw da i fyw gyda nhw hefyd, sy'n holl bwysig mewn ty mawr i fyfyrwyr. Ar lefel ehangach mae wedi bod dipyn yn haws trefnu fy nydd yn ystod yr wythnos o fod yn y ty newydd: mae pob siop sydd ei hangen yn wirioneddol agos, a thydi'r coleg ddim mwy na deg munud i ffwrdd.

Son am goleg, mi ddaru'r gwaith LPC ailgychwyn yr wythnos yma. 'Dani'n dechrau rwan ar ryw bynciau fel profiant (probate yn Saesneg) h.y. sut i drin ewyllys ac ystad rhywun sydd wedi marw. Difyr iawn! Ar ochr mwy cymdeithasol, mae'r wythnos yma wedi bod yn un reit lwcus i mi hyd yn hyn: ennill rywfaint o bres cwrw neithiwr ar ôl recordio yn stiwdios Boomerang fel extra i'r gyfres nesaf o Con Passionate. Dydi'r côr yn y gyfres ddim yn canu, sylwer: maent yn meimio i drac sain sydd wedi ei recordio o flaen llaw! A heno hefyd, oni'n rhan o'r tim a ennillodd y cwis misol Cymraeg yn y Goat Major, gyda phedwar can yr un o Kronenbourg 1664 yn wobr i aelodau'r tim! I gloi, mi ddyfynaf eiriau y bonwr Alan Partridge, "back of the net!" ;-)