Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Yn ôl yn y ddinas

Nôl yng Nghaerdydd am flwyddyn arall. 'Rwyf newydd gychwyn ar fy nghwrs ymarfer cyfreithiol (LPC) yn yr Ysgol Gyfraith yn ystod y tair wythnos diwethaf. Fel y gallwch ddychgmygu o'r prinder cofnodion ar y blog hwn yn ddiweddar, mae'n ddipyn mwy o waith na'r hyn a wneir ar gwrs gradd. Serch hynny, 'dwi am drio fy ngorau glas i barhau i gyfrannu at hwn, er y bydd cyfnodau tawel o bryd i'w gilydd.

O'r cyfreithiol i'r gwleidyddol, rhaid i mi nodi bod heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol i'r mudiad cenedlaethol. Lansiwyd mudiad ieuenctid newydd Plaid Cymru - CymruX - yng nghynhadledd flynyddol y Blaid yn Aberystwyth ychydig oriau yn ôl. Yn anffodus, nid oeddwn yn gallu mynd oherwydd gwaith coleg. Teimlaf bod cychwyn y mudiad yma yn hynod bwysig i ddyfodol yr achos genedlaetholgar/sofranyddol Gymreig. Yn gryno, mae'n gam cyntaf tuag at newidiadau sylfaenol sydd eu hangen o fewn y Blaid ers sefydlu'r Cynulliad os yw hi am allu cyraedd ei nod fel plaid wleidyddol Gymreig: ffurfio llywodraeth Cymru.