Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Dro Dolig 2005

Bues i ar daith gerdded o gwmpas fy nghynefin ar y 27ain (ddoe), sef ardal Llanddeiniolen. Meddyliais y byddai'n gyfle da i losgi rywfaint o'r twrci i ffwrdd tra'n mwynhau golygfeydd Arfon ar ddiwrnod braf (ac oer) ddiwedd Rhagfyr.













Dechreuom o faes parcio'r Gors Bach ychydig ar ôl deg o gloch y bore, gan gerdded at gopa Dinas Dinorwig, hen gaer Geltaidd a saif ryw chwarter milltir i'r de o egwlys plwyf Llanddeiniolen. Fel y gwelwch o'r lluniau yn fy nghyfrif Flickr (geshi gamera digidol i 'dolig, hwre!), mae'r safle mewn man uchel iawn o gymharu â'r gwastadeddau o'i gwmpas, gyda golygfeydd godidog o Eryri yn ymestyn o'r Eifl i'r Gogarth. Fan hyn y cynhaliwyd y seremoni gorsedd y beirdd modern cyntaf yn Arfon yn ôl bob son. Pa le gwell ellwch chi gael i'w gynnal, hefyd?!















Ar ôl ymweld â chopa'r Ddinas, cerddom ymlaen lawr lon Cae Meta, hen lon gefn sy'n boblogaidd gyda boy racers y cylch. Diolch i'r nef, 'doedd na'm un yn fan hyn ar ddiwrnod y daith! Wrth adael y lon, croesom ychydig o gaeau drwy stad Glascoed i gyraedd y goedwig lle saif Ffynnon Cegin Arthur. Y ffynnon hon yw tarddiad yr afon Cegin, sydd yn llifo i'r mor yn ymyl Hirael, Bangor. Yn ôl yr haneswyr, ddaru Dafydd Ddu Eryri (bardd o'r 17fed ganrif, nid y DJ) farw yn y Cegin wrth Ynys Iago (rhwng Penisarwaun a Carfan) gan iddo lithro wrth groesi dwr yr afon tra'n teithio adref drwy'r tywyllwch ar ôl bod ym Mangor un noson. Goblyn o sesh yn yr Octagon i Dafydd y noson honno, mae'n rhaid!















Cyn pen dim yr oedd hi'n amser cinio, felly i'r Gors Bach y dychwelom am gawl, bara a pheint, cyn gwneud stint mwy hamddenol yn y p'nawn heibio Seion, Pen Sgoins a'r Gwyndy cyn dychwelyd i'r Gors Bach eto. Rhaid diolch Sel Williams Llanrug am drefnu'r daith hon. Braf oedd gweld gymaint yn dod ar y daith, pawb yn mwynhau eu hunain yn cerdded a chymdeithasu. 'Roedd yn neilltuol o dda gweld gymaint yn y Gors Bach hefyd, gan mai fan hyn yw fy nhafarn leol, fy "local" fel petai.

Hwyl am rwan.

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home