Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Hydref 2005 - golwg yn ôl

Ar ôl misoedd mewn trwmgwsg, mae'r llyfr lloffion wedi aileffro!

Fel y byddwch chi wedi gweld o'm cofnodion blaenorol, 'dwi di bod yn treulio'r tymor diwethaf yn ôl yng Nghaerdydd yn gwneud cwrs LPC - hwn yw'r cwrs sydd angen ei wneud rhwng gradd gyfraith a bwrw "erthyglau". Yn wir, mae o wedi bod yn dymor brysur iawn imi o ran gwaith: cychwyn darlithoedd am naw bob bore, hyd at 5 awr y dydd o wersi - byd hollol gwahanol i'r gradd! Ac eto, er gwaetha'r pwysau oriau a darllen, mae'n llawer mwy ymarferol a pherthnasol (a diddorol mewn rhai ystyron) na llawer o'r hyn y bues i'n gwneud i'r LL.B. Gawn ni weld sut eith tymor dau yn y flwyddyn newydd...
















Ysgol Gyfraith, Prifysgol Caerdydd


Ni fu'r tymor diwethaf heb ei ddigwyddiadau allgyrsiol, chwaith. Yn ogystal â'r gigs, y cwisiau yn y Goat Major a'r amryw benwythnosau rygbi, cynhaliwyd y Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth ddechrau Tachwedd, sef yr un ola yr af iddi fel myfyriwr llawn-amser mae'n debyg. Roedd o fel unryw penwythnos rhyng-gol' arall ddweud gwir, heblaw imi lwyddo cael llawr i gysgu arno yn nhy Aled Barti, sy'n well na ryw gampfa swnllyd yn ymyl Pantycelyn. Bechod bod bysiau Caerdydd yn gadael hanner ffordd yn ystod perfformiad Mim Twm Llai!

Ar y ffrynt gwleidyddol/ymgyrchoedd, cynhaliwyd rali gan y Gymdeithas draw yng Nghaerfyrddin ddecrhau'r mis (3/12). Dweud gwir, dyma oedd y tro cyntaf imi ymweld yn iawn â'r dref farchnad brysur hon. Gwych oedd clywed y gefnogaeth a'r areithiau pigog gan mawrion lleol Sir Gâr fel Adam Price, Rhodri Glyn Thomas a Cefin Campbell yn galw am ddeddf iaith newydd, ond siom oedd gweld cyn lleied yn troi i fyny i wrando ar y sgwar. Ella bod yna 100 i 200 yno ar y pryd, dim mwy na hynny, a llawer o rheiny yn aelodau selog wedi teithio lawr o Aberystwyth. Arwydd o ddifaterwch pobl heddiw at unryw bwnc "gwleidyddol"? Pwy a wyr. O leia roedd yna nifer da yn ymuno â'r crac ym mharti cartref newydd Nanw a Creyr y Nos yn y dre gyda'r hwyr!















Rali Cymdeithas yr Iaith, Caerfyrddin 3/12/05 (Llun: Rhys Llwyd)


Y digwyddiad mawr arall fu'n aros yn y cof imi y tymor hwn oedd cinio nadolig y coleg (ball y Gym Gym), a gynhaliwyd ar y 13eg o Ragfyr yng ngwesty'r Hilton. Crand iawn, rhaid dweud. 'Roedd y bwyd yn iawn o'r hyn 'dwi'n cofio, ond teimlais bod y noson wedi mynd heibio yn eithriadol o gyflym. 'Doedd y ffaith eu bod yn cau'r lle am hanner nos ddim yn help, ond o leia parhawyd â'r parti tan yr oriau man yn nhy'r llywydd yn Stryd Harriet, Waun Ddyfal (Cathays).

A son am Waun Ddyfal, bydd yna ambell i newid imi yng Nghaerdydd unwaith 'dwi nôl yn y flwyddyn newydd. Gan bod fy nghartref presennol yn Nhrefynach (Grangetown di hwnna yn Gymraeg) mor eithriadol o bell o'r coleg, 'dwi di penderfynu symud i lofft sbar yn nhy un criw o genod yn y 3edd flwyddyn, ar stryd Thesiger. Dylai hyn arbed llawer iawn o amser imi gyda'r cwrs, yn ogystal â gwneud cymdeithasu gyda chriw coleg ryw fymryn yn haws. Duwadd - dwi'n edrych ymlaen rwan!

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home