Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Cartref, coleg, cor a chwis

'Dwi nôl yn y ddinas rwan ers bron i wythnos a hanner, ac yn setlo lawr yn reit sydyn yn y ty newydd yng Nghathays. Dwi'n rhannu efo criw o'r drydedd flwyddyn, sef chwech hogan ac un hogyn (sonnir cryn dipyn amdanyn nhw ar flog yr anarchydd hwnnw, yr Hogyn o Rachub). Maent yn griw da i fyw gyda nhw hefyd, sy'n holl bwysig mewn ty mawr i fyfyrwyr. Ar lefel ehangach mae wedi bod dipyn yn haws trefnu fy nydd yn ystod yr wythnos o fod yn y ty newydd: mae pob siop sydd ei hangen yn wirioneddol agos, a thydi'r coleg ddim mwy na deg munud i ffwrdd.

Son am goleg, mi ddaru'r gwaith LPC ailgychwyn yr wythnos yma. 'Dani'n dechrau rwan ar ryw bynciau fel profiant (probate yn Saesneg) h.y. sut i drin ewyllys ac ystad rhywun sydd wedi marw. Difyr iawn! Ar ochr mwy cymdeithasol, mae'r wythnos yma wedi bod yn un reit lwcus i mi hyd yn hyn: ennill rywfaint o bres cwrw neithiwr ar ôl recordio yn stiwdios Boomerang fel extra i'r gyfres nesaf o Con Passionate. Dydi'r côr yn y gyfres ddim yn canu, sylwer: maent yn meimio i drac sain sydd wedi ei recordio o flaen llaw! A heno hefyd, oni'n rhan o'r tim a ennillodd y cwis misol Cymraeg yn y Goat Major, gyda phedwar can yr un o Kronenbourg 1664 yn wobr i aelodau'r tim! I gloi, mi ddyfynaf eiriau y bonwr Alan Partridge, "back of the net!" ;-)

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home