Helo ddarllenwyr y blog hwn,
Mae hi wedi bod yn dair wythnos eitha' prysur i mi yn ddiweddar, ar dramp drwy wledydd Frythonaidd (h.y.
p-celtaidd) y byd Celtaidd.
LLYDAWI ddechrau, es i efo fy nheulu ar wyliau i Lydaw (eto!) yna i Gernyw (am y tro cyntaf go-iawn). 'Doedd y tywydd y tro hwn yn Armorica ddim mor ddibynadwy â'r gwyliau blaenorol yno. Eto i gyd, daw llawer o uchafbwyntiau i'r cof sydd werth eu nodi.
- Treulion ni noswaith ar ddechrau'r wythnos mewn fest noz awyr agored yn Penquesten, pentref bach yn ymyl y gîte gwledig yn Kergo lle 'roeddwn i a'r teulu yn aros. Ac er gwaetha'r hyn a glywir yn aml am dranc yr iaith Lydaweg, 'roedd y noson yn enghraifft da o'r adferiad sylweddol sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn niwylliant traddodiadol/gwerin Llydaw. Daeth canoedd o bobl i'r lle, o'r gymuned a thu hwnt, gyda pawb i weld yn mwynhau eu hunain yn y "dawnsio cylch" sydd mor nodweddiadol o'r fest noz.
- Buom hefyd am ail ymweliad â Belle-Ile en Mer, yr ynys fwyaf oddi ar arfordir deheuol Llydaw. Y tro hwn cawsom gyfle i ymweld ag arfordir gwyllt ochr deheuol yr ynys - son am le garw. Ddaru ni hyd yn oed hwylio i'r ynys ar long o'r enw "Bangor", a enwyd ar ôl un o gymunedau'r ynys mae'n debyg, nid ein Bangor enwog ni yng Nghymru!
- Cyn gadael am Gernyw, aethom am ymweliad â gefeilldref Caernarfon, sef Landerne/Landerneau, yng ngogledd orllewin y wlad. Digwydd bod, roedd yna wyl/gorymdaith Lydewig mawr ar y diwrnod pan wnaethon ni ymweld â'r dref. Gyda phob o bob oedran yn gorymdeithio mewn gwisg draddodiadol i gyfeiliant y pibau a'r drymiau, ddaru'r ymweliad â'r dref roi cyfle diguro arall inni brofi y diwylliant a'r craic Llydewig yn y cnawd.
CERNYWYn dilyn croesiad uffernol o stormys dros y Sianel, ddaru ni gyraedd Plymouth mewn un darn (wel, rhai ohonon ni o leiaf!) cyn neidio dros y Tamar i Gernyw, heb gwsg ac heb glem am lle i fynd i weld. Diolch byth, ges i gyfle i gysgu am y p'nawn yn B&B y rhieni cyn mynd a'r bagiau i fy ngwesty bach i am y tridiau hwnnw - sef Hostel Ieuenctid Boswinger, ger Gorran Haven. Hwn oedd y tro cyntaf i mi aros yn un o hosteli ieunctid yr YHA, ac ar yr ôl yr ansicrwydd cychwynnol mi ddois i fwynhau'r profiad. Fyddai'n sicr o ystyried aros mewn un eto yn y dyfodol.
Beth, felly, oedd uchafbwyntiau Cernyw? Heb os, 'roedd ymweld â'r Eden Project yn syniad da. Da hefyd oedd profi coginio safonol ochr yma i'r Sianel am newid - o bastai Cernywaidd go-iawn a wnaed yng nghysgod St Michael's Mount (ac nid y sothach Ginsters 'na), i oen ac eidion lleol ym mhrydau bar y tafarndai cyfagos, o leia wnes i ddim llwgu tra yn Kernow! Isafbwynt y daith i Gernyw oedd ymweld â Land's End, lle'r oedd y tywydd yn wynt a glaw i gyd heb ronyn o welededd, tra bo popeth yn y lle yn "First and Last Shop", "First and Last Pub", "First and Last Lighthouse" ac ati. Addas iawn, gan mai'r diwrnod hwnnw fyddai'r "first and last" tro i mi fynd i Land's End mae'n debyg!
CYMRU (CAERDYDD)Ar ôl darfod y gwyliau yng Nghernyw, aethon ni gyd yn ôl i Gymru. Tra aeth fy rhieni yn syth am adref yn y gogledd, mi benderfynais i aros am gwpl o ddiwrnodiau gyda ffrindiau yng Nghaerdydd. Diolch mawr i Ifan, GDG, Alun, Poj a Mei am y llety a chroeso! Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad drwy'r testun tra yng Nghernyw i ddod i noson lawnsio nofel gynta' Catrin Dafydd yn siop lyfrau Caban ym Mhontcanna -
wele'r llyfr. Gan bod Caerdydd tua hanner ffordd ar fy nhaith, pwy oeddwn i i wrthod? Er hynny, heb imi wybod yn wreiddiol, y mae'r llyfr yn gwneud cyfres o lawnsiadau rownd y wlad ar y funud gan orffen yn fy siop Gymraeg lleol, Palas Print Caernarfon! Yntydi'r byd 'ma'n fach?
Be bynnag, treuliais gweddill fy amser yn y ddinas
ymhlith pethau eraill yn mwydro dros
lamb passanda a pheint ym mwyty'r Cinnamon Tree, loetran yn ddigyfeiriad o gwmpas y Bae, a mynd i farbeciw mewn gardd ty pobl diarth yn Nhreganna tra'r un pryd yn aros yn effro er mwyn dal y tren am 5yb i Fangor.
RWAN'Dwi bellach yn ôl yn Seion eto, wedi derbyn canlyniadau fy arholiadau
electives oddi ar yr LPC ers tua wythnos. Y newyddion da yw fy mod i wedi pasio Commerical Property, Private Client a Family Law, ynghyd â phopeth arall heblaw am PLP, LIT a PCFSMA. Mae hyn yn golygu bod angen imi sefyll a phasio 3 arholiad ychwanegol yn ystod mis Medi cyn imi allu pasio'r cwrs drwyddi draw. Hitia befo, 'rwyf newydd gychwyn swydd dros yr haf yng nghyngor sir Ynys Môn, sef fy nhrydydd swydd haf mewn llywodraeth leol hyd yn hyn. Byddaf yn catalogio cyfrifoldebau trwsio waliau a ffensys y cyngor, gan bori trwy ganoedd o weithredoedd o bryniadau tir y cyngor ar hyd y blynyddoedd. Mae'n waith digon llafurus sydd yn golygu canolbwyntio ar fanylion y gweithredoedd, ond credwch neu beidio, peth difyr yw dysgu am hanes gwelliannau ffyrdd ym Môn Mam Cymru! Yntydwi'n drist...