Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Eisteddfod Eryri a'r Cyffuniau 2005 (rhan 2)


Ysgrifennais fy nghofnod cyntaf am Eisteddfod Eryri ar y noson cyn y Dydd Sadwrn cyntaf, rwan mae'n nos Sul y 7fed a dychwelaf gan gyfrannu'r ail gofnod (a'r un olaf) o'r brifwyl am eleni. Rhaid imi ddweud 'mod i wedi mwynhau Eryri 2005 yn arw. Roedd yn 'steddfod llawn digwyddiadau diddorol yn y dydd, ac roedd digonedd o fwrlwm yn y digwyddiadau nos. Roedd hefyd yn 'steddfod dra gwahanol i'r arfer - dim gwersylla ar y maes ieuenctid gan fy mod i'n byw yn ymyl y Faenol, dim Maes B gan fy mod i'n rhy brysur efo digwyddiau Maes C a gigs y Gymdeithas (boed yn stiwardio neu'n cymdeithasu), 'steddfod mewn ardal sydd ddim yn ddieithr, a dillad glan di-fwd pob dydd! Do wir, ni fu raid imi ei ryffio hi eleni diolch i'r nefoedd.

Treuliais y rhan fwyaf o foreau yn gwirfoddoli ar stondin y Gymdeithas, yn bennaf i werthu tocynnau gigs, gosod posteri yn hysbysebu gigs i fyny mewn gwahanol lefydd a
chael pobl i arwyddo'r amryw ddeisebau (Deddf Iaith a Deddf Eiddo). Am fy ngwaith oeddwn yn gallu mynd i'r maes am ddim, gan arbed chwephunt yn ddigon handi! Yn y p'nawniau, ar y llaw arall, gwnes i'r gorau o'r cyfle i fynychu'r gwahanol gyfarfodydd a phrotestiadau ledled y maes a thu hwnt.

Uchafbwyntiau'r dydd

Efallai mai'r dyddiau mwyaf diddorol i mi ar y maes oedd y dydd Mawrth, y dydd Mercher a'r dydd Gwener. Ddydd Mawrth fe fu protest ar fyr rybydd yn erbyn y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, i feirniadu ei sylw yn gynharach yn y dydd bod trafod deddfwriaeth yn ymwneud â'r Gymraeg yn "boring, boring, boring". Dyma oddi wrth yr un boi sy'n galw'r gallu i siarad Cymraeg fel Prif Weinidog yn ddim mwy na "handi". Gyda'r sylwadau hynod gefnogol hyn at yr iaith, ydi dod â swyddogaeth y Bwrdd Iaith o dan reolaeth uniongyrchol y llywodraeth yn syniad mor glyfar a hynny? Cawn ni weld.



Rali'r Gymdeithas (oddi ar wefan Rhys Llwyd)



Y Prif Weinidog, Rhodri Morgan (oddi ar wefan Cymdeithas yr Iaith)

Ddydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfod i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg, cyfarfod a drefnwyd gan Gylch yr Iaith ond ymgyrch a gefnogwyd gan yr helyw o brif fudiadau Cymraeg y genedl megis Cymdeithas yr Iaith, Cymuned, Merched y Wawr, RhAG, UMCA, UMCB ac wrth gwrs Cylch yr Iaith ei hunain. Dan arweiniad profiadol Elfed Roberts (na, nid yr Elfed sy'n fos ar y 'steddfod ond un arall...), cafwyd areithiau clodwiw gan y siaradwyr, yn enwedig gan yr academydd o goleg Bangor, Dafydd Glyn Jones. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf erioed imi weld Dafydd yn areithio, ac mae rhaid dweud, mae ganddo ddawn anhygoel i fod yn ddychanol ac yn ddeifiol yn erbyn y mentaliti gwrth-Gymraeg sydd fel woodworm o fewn y sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Bydd cyraedd copa'r Eferest hwn ddim yn un hawdd o bell ffordd, ond gyda lobïwyr fel y ddau Dafydd (-Glyn Jones a Catrin), mae ganddom ddringwyr heb eu hail i ysbrydoli'r gweddill ohonom i wneud yr ymdrech yna i anelu am y copa, boed law neu hindda.



Elfed Roberts, Cylch yr Iaith
(oddi ar wefan Rhys Llwyd)

Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod prysur iawn. Yn y bore cynhaliwyd brotest gan fudiad ieuenctid Plaid Cymru wrth stondin y Blaid Lafur er mwyn condemnio diffyg dealltwriaeth y llywodraeth o'r problemau sydd yn gwynebu ieuenctid heddiw megis ffioedd dysgu a chyflenwi, a thai sydd allan o afael prynwyr tro-cyntaf. Yn y p'nawn cynhaliwyd brotest arall - dros Goleg Ffederal Cymraeg. O dan arweiniad addawol llywydd UMCA, Stephen Hughes, daeth criw go lew i'r rali hwn er y byddai'n dda pe byddai rhagor o fyfyrwyr o Gaerdydd wedi troi i fyny. Ond sut mae deffro cawr? Ynteu efallai unigolion sydd angen eu deffro? Atebion ar gerdyn post, os gwelwch yn dda.

Yn dilyn rali'r C.FF.C. hyn es i at lawnsiad y rhifyn diweddaraf o hoff gylchgrawn MC Saizmundo, Tu Chwith. Thema'r rhifyn cyfredol yw "Dwr", a darllenwyd rhai darnau o waith y cyfranwyr i griw ohonom ddaru ymgynyll tu allan i stondin yr Academi Gymreig, i gyfeiliant swigod sebon. Hmmm, diddorol iawn. Cafwyd hefyd ambell i gân gan Alun Tan Lan. Tydw i ddim 'di darllen y rhifyn eto, nac ychwaith y stwff eraill mae rhywun yn ei phrynu adeg 'steddfod, dim ond gobeithio ga'i gyfle i wneud hynny yn ystod yr hyn sy'n weddill o'r haf.



Alun Tan Lan (oddi ar wefan Ffonlonluniau Nwdledig)

Gyda'r nos

Fel y dudis i yn gynharach yn y llith hwn, bûm gyda'r nosau yn y gigs a drefnwyd gan y Gymdeithas, ynghyd ag ambell i noson lenyddol ei natur. 'Roedd Steve Eaves a Quidest nos Sul yng Nghofi Roc, Caernarfon werth eu clywed, yn ogystal â Geraint Løvgreen a Bob Delyn ar y nos Wener. Efallai mai'r perfformiad gorau imi ei glywed oedd Meic Stevens ar y nos Sadwrn olaf yn Amser, Bangor. 'Roedd yn amlwg on form ar y noson, yn chwarae yr oll ffefrynnau fel Rue Saint Michel, Môr o Gariad a Victor Parker. Doedd y bandiau eraill ar y nos Sadwrn ddim yn ddrwg chwaith, er imi yn anffodus fethu set enillwyr brwydr y bandiau, y Derwyddon. Mi ges i gyfle i glywed y criw yma o ardal Bethel a Llanrug nos Fawrth ym Mangor, ac 'roeddan nhw'n swnio'n dda iawn bryd hynny. Fel cyn-ddisgybl o Frynrefail fy hun, allai ddim ond gobeithio'r gorau iddyn nhw ar ddechrau eu taith ar lwybr y sîn roc Gymraeg.

O ran y nosweithiau llenyddol, ges i uffar o amser da yn y Noson 4/6 a drefnwyd nos Iau yn y Galeri, Caernarfon. Cafwyd cymysgedd o ganu, DJs, darlleniadau gan feirdd a darlleniadau o waith diweddaraf y cymêr hwnnw, y Dyn Dwad. Actiwyd darnau o'r llyfr newydd - Chwarter Call - gan Llion Williams, y cymeriad yn fopiad o wallt a mwstas, ac er yn lled-sgowsaidd ei olwg, odd o'n sharad union 'tha Cofi o ganol Sgubs ia, con'. Ac ar y nos Wener, cyn y gig yng Nghofi Roc, cynhaliwyd stomp awyr agored o fewn castell Caernarfon gyda chyfraniadau'r beirdd yn amrywio o broblemau un llanc gyda maint abnormal o hir ei gyfarpar rhywiol, i bryderon un ferch ryfedd o'r Wladfa a wynebai deportation gan yr awdurdodau! Ond Gwyneth Glyn aeth adref gyda'r stôl, gyda'i cherdd yn chwarae ar eiriau i gyfeirio at lenorion pan yn rhestru eitemau o ddillad. Robe-in Llywelyn, Mei Mac, Gwyneth Lewys ayb. Noson o hwyl, fel gweddill nosweithiau a diwrnodiau'r 'steddfod a fu eleni.



Stomp yng Nghastell Caernarfon (oddi ar wefan yr Academi)

Reit ho ta, dim ond blwyddyn i fynd tan Abertawe a'r Cylch 2006!

0 Ymatebion:

Post a Comment

<< Home