Llyfr Lloffion

Tipyn bach o bob dim.

Helo, croeso a diolch am ddod draw!

Dyma'r cofnod cyntaf mewn blog a fydd, rwy'n gobeithio, yn gyfraniad arall i fwrlwm y Rhithfro, sef y rhwydwaith hwnnw o flogiau Cymraeg sydd wedi gweld cryn twf yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Roedd gena'i safle we ers talwm hefyd, ond oherwydd amryw ffactorau (diffyg cyfrifiaduron rhydd yn y coleg, diffyg amser, diffyg 'mynedd), 'doeddwn i ddim yn gweld pwynt cario ymlaen gyda'r peth. Gyda dyfodiad www.maes-e.com, serch hynny, 'dwi 'di bod yn defnyddio'r we yn amlach ar gyfer trafod pynciau'r dydd nag y bum i erioed o'r blaen. Yn ail beth, mae hwylustod, symlder ac eflen rhyngweithiol y rhyngwyneb blogio yn ei wneud yn hawsach nag erioed i gynnal safle we personol o safon.

Cyn bwrw ati gyda'r blog yma, efallai dylid ystyried beth fydd ei gynnwys. Mewn gwirionedd, tydw i ddim wedi penderfynu yn iawn eto yr union bethau wna'i gyfrannu, ond dylai'r teitl fod yn ddisgrifiad da o'r hyn dwi'n ei anelu ato. Fel llyfr lloffion yn y cigfyd, casglu tipyn o bob dim y byddaf mae'n debyg. Trafod beth bynnag sydd o ddiddordeb imi, a hynny yn amrywio yn unol รข'r amgylchiadau a'r pwnc dan sylw.

Hwyl am y tro.

1 Ymatebion:

  • At 2:54 pm, Blogger Dwlwen said…

    Un arall am y rhestr hirfaith o ddoleni. Croeso mawr Geraint.

     

Post a Comment

<< Home